Community News

Obituaries

Caradog Morgan Jones

Ganed Caradog yn y flwyddyn mil, naw, un, saith, y pedwerydd o chwech o blant Elizabeth a Morgan Jones, Bwlch Gwyn, a'r trydydd mab.

Yr oedd y rhyfel mawr yn dirwyn i ben a byw yng nghefn gwlad bryd hynny yn galed iawn; serch hynny roedd yr aelwyd yn un hapus ac yn llawn cariad a gofal. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Brechfa hyd at bedair ar ddeg oed a mynd wedyn i wasanaethu ar ffarm fel llawer un arall y dyddie hynny. Bu'n gweithio ar ffermydd Ffos Helyg, Peniel, ac yna gyda'i Wncwl Harri-brawd i'w fam- yn Lan Cwm Brawd, Brechfa, ac wedyn ym Mhenllwyne, Nantgaredig, ac yr oedd ganddo hanesion di-ri' am y dyddiau hyn. Roedd y diwrnod gwaith yn hir, yn gweithio gyda cheffylau am gyflog bach, ond cafodd amser hapus a chwmni'aeth dda ac fe ddysgodd lawer am sut i amaethu.

Bu cyfnod wedyn pan oedd yn yrrwr lori, yn cario bwyd anifeiliaid ac yn y blaen i ffermydd yr ardal, i gwmni Bryn Stores. Erbyn i'r ail ryfel byd ddechrau, cawsai waith gyda'r Weinyddiaeth Gyflenwi - y Ministry ofSupply, yn cario coed a hefyd yn cludo carcharorion rhyfel o'r Almaen ac o'r Eidal i weithio ar y tir i lawr yn Sir Benfro. Bu'n aelod o'r Home Guardyn Brechfa trwy gydol y rhyfel.

Yn 1942, fe briododd â Nellie Davies, Felin Marles ac ymgartrefu yn y Felin, gan rannu'n ddiddig aelwyd ei dad yng nghyfraith John Davies, a Harold, ei frawd yng nghyfraith - y ddau yn seiri coed crefftus, a chan ffermio'r tyddyn ar ôl ei ddiwrnod gwaith arferol ac ar y penwythnosau. Yn 1943 ganed eu merch, Delyth. Yn nes ymlaen wedyn aeth i weithio gydag adran adeiladu a chynnal a chadw Y Comisiwn Coedwigaeth - y Forestry Commission - fel masiwn, ac roedd yn grefftwr ar waith plastro.

Yn 1953 symudodd Caradog, Nellie a Delyth i íyw ym Mryn Felin, tyddyn oedd yn berchen i'r Comisiwn, a dechrau ffermio yno, a Caradog ar yr un pryd yn gwneud ei waith beunyddiol fel masiwn. Roedd hwn yn gyfnod hapus iawn ond daeth tro ar íyd gyda salwch Nellie, a bu hithau farw yn 1960, yn hanner cant oed. Newidiodd Caradog ei waith eto er mwyn bod yn nes adre ac wrth law yn ystod cystudd ei wraig, a bu'n gweithio fel postmon rhan amser. Bu'n gefnogol i Delyth yn ystod ei dyddiau coleg a'i gwaith fel athrawes er y bu'n rhaid iddi hithau symud o'i sir enedigol.

Ymhen saith mlynedd, ailbriododd Caradog, - â Mabel Phillips o Dafen, Felinfoel a symud i dre Caerfyrddin lle buon nhw'n byw am dros ugain mlynedd. Fe fu'n gweithio yn ffatri Cow & Gate yn ystod y blynyddoedd cyntaf cyn ymddeol yn gynnar; doedd y math yma o waith ddim wrth fodd un o fechgyn y tir. Ar ôl ymddeol, treuliai ei amser yn gweithio kennels cwn, yn atgyweirio hen geir ac yn gwneud mân jobs adeiladu, Roedd hefyd yn cadw gardd daclus. Ond fe fu farw Mabel o'r un cleíyd â'i wraig gyntaf. Ar ôl ychydig, symudodd yn ôl i Brechfa ac i Fro Marles, lle bu farw fore dydd Gwener diwethaf, bron yn bedwar ugain a naw. Daeth y diwedd yn ddisymwth iawn, yn annisgwyl; ond chafodd e ddim salwch hir a chystudd blin a chafodd ei ddymuniad o beidio â bod yn faich ar neb a chael aros yn ei gartref ei hun tan y diwedd.

Dyna ddim ond braslun o'i fywyd. Ond sut un oedd e? Wel o 'mhrofíad personol i, roedd yn gymeriad hynaws, ffeind, yn weithiwr caled, gonest, wastad yn daclus ei wisg, wastad yn barod i helpu, yn grefftwr, a digon o sbri ynddo. Yn hoff o focsio, motobeics, loris a cheir, a phob peth y mae a wnelo â chefn gwlad. Roedd symud yn ôl i íyw yn Brechfa, i fod ym mysg pobol roedd e wedi eu nabod ers ei ieuenctid, yn beth da tros ben a bu'r cymdogion, ac eraill, yn dda iawn iddo fe; hoffwn ddiolch o galon iddyn nhw yn gyhoeddus yn awr.

Barry

Heulwen Mair Jennison

Heulwen was a local girl, born in Troed Y Bryn and spent her life in this area, 12 or 13 months in Llanllawddog and then in Horeb for 39 years before going a little further a field to Llangunnor. Heulwen went to school here in Brechfa when G. K. Williams was vicar.

Heulwen was a good Samaritan, finding time for everybody else right until the day she died, always smiling, always asking about others.

Heulwen treated the whole family the same, cousins, grandchildren, in laws; she always provided a home for them when they visited. She has left her best friends Mair and Sal from the wedding, which was 50 years ago on April 3rd. She also leaves many friends from the Brechfa Area and elsewhere.

Her children remember that they knew when they were told off; she wasn’t a redhead for nothing. She was, though, a good mother to Glenville, Ralph and Caroline. She was also a dedicated wife and best friend to John, who was her childhood sweetheart. They were separated by his time in National service spent in the Far East. John changed a lot while he was away so when he came back they weren’t sure they recognised each other. It wasn’t long before they sorted that out, picked up from where they left and got married.

We all extend our sympathy to Heulwen’s family, her Husband John, to her siblings Howell and Elfryn, to her children Glen, Ralph and Caroline and grandchildren, John, Emily, Wesley, Anabel, Veronica, Paul and Loraine. The parting of death is a hard thing, and I know you are going through a lot of pain now, but the Christian hope is that we won’t be separated forever, but that in a moment, in the twinkling of an eye, we will be restored to one another in the fullness of God’s Kingdom.

The Vicar

Brechfa News

Llongyfarchiadau

Congratulations to Elfed Daniels and Aled Johnson on gaining third prize for the Dyffryn Tywi Y.F.C. at the Carmarthenshire Y.F.C. Rally held recently.

Llongyfarchiadau i Aled Johnson am ennill y wobr gyntaf am yr actor mwyaf addawol o dan 18 yng ngystadleuaeth Hanner Awr Adloniant Clwbiau Ffermwyr Ifanc Sir Gar. Aled was also a member of the winning junior English Public Speaking Team in Carmarthenshire.

Brechfa Carnival

This year the carnival will be on the 15th of July in Victoria Park.

Aled Johnson - photo from Ceinwen Johnson

Abergorlech News

 

Since I last wrote in these columns we have had our Bingo Evening and though a large number of village folk did not come along we never-the-less had a good crowd. We had a very enjoyable evening which was a change from watching the ‘Box’.

Then came the evening of the year, the Comedy Plays which were performed by “Party y Cudyll Coch”, which translated is “The Red Kite Party”. The hall was packed out, and our thanks go to Mr. Arwyn Thomas our popular Church Secretary, and his willing band of workers for organising the evening.

It was a delight to have Mrs. May Rogers, Banc-y- Glyn chairing the evening. Now in her 80’s, but as if yesterday to some of us in our local school, we knew that we would have an orator of the highest calibre, who spoke her words immaculately and precisely.

Thanks to the support of the audience who came from far and wide (even from Llanblethian near Cowbridge) and a special thanks to the Party for giving us an excellent performance. Diolch yn fawr.

Ie, noson iw chofio oedd Mai 12ed 2006 pan y cyflwynodd cwmni drama “Y Cudyll Coch” ddwy gomedi o waith Ifan Gryffudd i Neuadd a oedd yn orlawn, gyda phobol wedi dod o bell ffordd i’r noson arbennig yma yng ngalendar yr ardal. Mae ein diolchiadau yn fawr i Arwyn Thomas am drefnu y noson.

Hyfryd dros ben oedd presenoldeb Mrs. May Rogers, Banc-y-Glyn yn y gadair, ac er yn awr dros e wythdeg fe draddododd araith a oedd yn llawn cywirdeb ac o safon uchel iawn. Pleser oedd gwrando ar lais hyfryd un o blant y fro, ‘ai gwreiddiau yn ddofn yn yr ardal. Diolch yn fawr i gwmni “Y Cudyll Coch” am ei cyflwyniad ai perfformiad ardderchog. Diolch i’r gwrandawyr am ei presenoldeb. Ac fel dywedodd Arwyn “Na’r noson orau eto”. Mae hynny yn dweud y cyfan.

D.Haydn Davies

The Church Festival

We look forward to this year’s Cymanfa which is to be held at Llansawel Church of July 2nd at 2.30pm. and at 6.30pm. Of course the Chapel Festival was held on June 4th at Abergorlech . It is great that these events are kept up in our Churches and Chapels.

I remember the days when it was a must for the girls to have a new dress and the lads a new trousers and jacket (or a Blazer if Mam and Dad had the money) for these special occasions, and the generous neighbour who would put a sixpenny piece in my pocket, for luck. I felt a rich person.

D. Haydn Davies

Flower Festival

Will be next year over the spring bank holiday.

D. Haydn Davies

Dyweddiad

Ein pleser or mwyaf oedd clywed bod Dylan Thomas, Penybanc ac Ann Williams o Llandeilo wedi dyweddi yn ystod yr wythnosau diwetha yma. Mae’r ddau yn boblogaidd iawn ym myd amaethyddiaeth a dy ni yn edrych mlaen yn fawr i’r diwrnod mawr. Pob bendith ar y ddau berson hyfryd yma yn y dyfodol.

D. Haydn Davies

Genedigaeth

Hyfryd oedd clywed am enedigaeth Bachgen Bach i Joyce ac Eirian, Fferm Llwyncelyn. Deallir fod Joyce a’i baban “Glasnant” yn dod ymlaen yn dda. Pob bendith ar y teulu yma. Danfoner ein llongyfarchiadau iddynt oddi wrth drigolion y gymdeithas yma ar rodd hyfryd o law Duw.

D. Haydn Davies

Annual Vestry

The Annual Vestry(the Church’s Annual General Meeting) was held on April 25th. A very important meeting in the Church Calendar. People often say after the event “I could do that”. Well why do you not try? We need enthusiastic members. Yes get onto the Parochial Church Council. Mind you, there may be some difficulty getting off again, but not to worry. Do you have a particular talent that we could use? Do you even know if you have such talent? Have you ever thought of trying to find out? Consult our Elected wardens Mrs. Betty Thomas and Mrs. Nadine Sheppard, that’s enthusiasm for you. Mr. Arwyn Thomas was re-elected as secretary and Mr. D.Haydn Davies was re-elected as treasurer of the P.C.C. Whether in Business or Church it is wonderful to be re-elected. It proves that you must be playing a good part in society.

“See you all in Church next Sunday”. We are a friendly crowd, and what better as you begin another week. Come on, come and join us.

D. Haydn Davies

Our Best Wishes go to Mrs. Edith Rees, Ty Clyd, Pontargothi, who celebrated her 107th Birthday on April 24th. She goes to St.John’s Church, Carmarthen regularly, where she has been a member for some 80 years, since coming to live in Carmarthen from North Pembrokeshire. She is a lovely lady, a great honour to know and have conversations with. God Bless you Mrs. Rees.

D. Haydn Davies

Yr Athletwr Dewi Griffiths

Athletwr a’i fry ar ennill ac y sydd nid yn unig yn ennill rhedfaon ledled Prydain Fawr, ond yn rhedeg i fyny pob gornest a ddaw o’i flaen yr un mor gyflym, a meddwl mai dim ond pedair-ar-ddeg yw ein cyfaill ieuanc.

Mae Dewi yn mynychu ysgol Tregib ac yn aelod o glwb athletau Harriers Caerfyrddin a’r Cylch, ac yn fawr ei barch gan bob un sydd ym myd athletaidd naill yn swyddog neu yn gyd gystadleuwr. Dewi ydi yr un sydd yn gosod y safon y dyddiau rhain ac fe ddaeth ir bri yn ras mini marathon Adidas yn Llundain ychydig wythnosau yn ôl i fechgyn 13 – 14 oed ag er ei bod yn fore gwlyb roedd Dewi yn croesi y llinell derfynol broni hanner minud o flaen ei gydymgeisydd agosaf, bron y medir dweud, amser i gael cwpanaid bach cyn “croesawu y lleill adref”.

Hyfryd oedd gweld y cwpanau mae eisioes wedi ennill, y llythyron o wahannol fannau o Brydain Fawr, yn llawn o gyflenwadau o’i gamp ym myd athletau. Cofiwch mae dim ond ugain oed fydd Dewi yn 2012 pan fydd y byd yn dod i Brydain Fawr, ie y byd Olympaidd. Bydd Dewi wedi rhedeg miloedd o filltiroedd cyn hynny rwyn siwr i fynny ac i lawr dros y bryniau sydd rhwng Abergorlech a LLanfynydd yn ei gais i berffeithio ar yr nod mae eisioes wedi gyrraedd. Ie un fel yna ydi Dewi. Beth ydi y safon? Ie ennill cystadleyaeth or brig uchaf sef y 4,500m mewn 15 minud a 2 eiliad, ac fe gyflwynwyd iddo gwpan sialens a medal ac mi gafodd ei goroni’n bencampwr traws gwlad gwledydd Prydain 2006 dan 15 oed. Dyna’r safon. Gellir mynd ymlaen am y pencampwr nodedig yma, a dy ni fel cymdeithas yn ei longyfarch yn fawr iawn, oherwydd un bach ydi Dewi ond mae yna beirant neilltuol ym meddiant y corff yma. Peiriant rwyn siwr y carai ei gyd gystadleuwyr fod yn feddiannol o hono. Edrychwn ymlaen at frig bywyd athletaidd, sef y byd Olympaidd 2012. Mae Dewi mewn dwylo da rwyn siwr sef yn ysgol Tregib, y Clwb Athletaidd Caerfyrddin ac yn nwylo un sydd wedi bod yn gefn mawr iddo sef Dr. Hedydd Davies. Ie, un o Abergorlech ar Cylch eto, a wnaeth ei farc yntau ym myd athletic ein gwlad ni. Byddwn yn dilyn dy yrfa Dewi, a phob llwyddiant i ti a phob Bendith.

D. Haydn Davies